3 Mae Aaron i'w gosod tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth yn y Tabernacl. Rhaid iddo ofalu eu bod yn llosgi drwy'r nos o flaen yr ARGLWYDD. Mae hyn i fod yn rheol bob amser.
4 Rhaid iddo ofalu bob amser am y lampau ar y menora cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD.
5 “Rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau a pobi deuddeg torth gydag e. Dau gilogram o flawd ar gyfer pob torth.
6 Mae'r deuddeg torth i'w gosod ar y bwrdd cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD. Rhaid eu gosod yn ddau bentwr o chwech yr un.
7 Yna rhaid rhoi thus pur ar y ddau bentwr, a bydd y bara yn ernes, yn rhodd i'r ARGLWYDD.
8 Mae Aaron i wneud hyn yn ddi-ffael bob Saboth, a'u gosod mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD. Mae'n ymrwymiad mae'n rhaid i bobl Israel ei gadw bob amser.
9 Mae'r offeiriaid, Aaron a'i feibion, i gael y bara. Rhaid iddyn nhw fwyta'r torthau mewn lle cysegredig am eu bod yn rhoddion sydd wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD.”