8 Mae Aaron i wneud hyn yn ddi-ffael bob Saboth, a'u gosod mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD. Mae'n ymrwymiad mae'n rhaid i bobl Israel ei gadw bob amser.
9 Mae'r offeiriaid, Aaron a'i feibion, i gael y bara. Rhaid iddyn nhw fwyta'r torthau mewn lle cysegredig am eu bod yn rhoddion sydd wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD.”
10-11 Un diwrnod roedd dyn oedd yn fab i un o wragedd Israel, ond ei dad yn Eifftiwr, wedi mynd allan o'i babell i wersyll yr Israeliaid. A dyma fe'n dechrau ymladd gyda un o ddynion Israel. Dyma fe'n amharchu enw Duw, a melltithio. Felly dyma nhw'n mynd ag e at Moses. Enw ei fam oedd Shlomit (merch Dibri, o lwyth Dan).
12 Dyma nhw'n ei gadw yn y ddalfa nes byddai'r ARGLWYDD yn gwneud yn glir iddyn nhw beth oedd i ddigwydd iddo.
13 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
14 “Mae'r dyn yma wedi fy melltithio i. Dos â fe allan o'r gwersyll, a gwna i'r rhai glywodd e'n melltithio osod eu dwylo ar ei ben. Wedyn rhaid i bawb sydd wedi dod at ei gilydd yno ei ladd drwy daflu cerrig ato.
15 Wedyn rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae unrhyw un sy'n melltithio enw ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod,