1 Pan oedd Moses ar Fynydd Sinai dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho:
2 “Dywed wrth bobl Israel:“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, rhaid i'r tir gadw Saboth i'r ARGLWYDD a gorffwys.
3 Cewch hau eich had a thrin eich gwinllannoedd a chasglu'r cnydau am chwe mlynedd.
4 Ond mae'r seithfed flwyddyn i fod yn Saboth i'r ARGLWYDD – blwyddyn i'r tir orffwys. Does dim hau i fod, na thrin gwinllannoedd.