13 “Yn y flwyddyn yma mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl.
14 Os ydy rhywun yn gwerthu eiddo, neu'n prynu gan gyd-Israeliad, rhaid bod yn gwbl deg a pheidio cymryd mantais.
15 Dylai'r pris gael ei gytuno ar sail faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers blwyddyn y rhyddhau, a nifer y cnydau fydd y tir yn eu rhoi cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf.
16 Os oes blynyddoedd lawer i fynd, bydd y pris yn uwch. Os mai ychydig o flynyddoedd sydd i fynd bydd y pris yn is. Beth sy'n cael ei werthu go iawn ydy nifer y cnydau fydd y tir yn ei roi.
17 Peidiwch cymryd mantais o rywun arall. Ofnwch eich Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
18 “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i'n ffyddlon. Cewch fyw yn saff yn y wlad wedyn.
19 Bydd y tir yn rhoi digon i chi ei fwyta, a cewch fyw yn saff.