18 “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i'n ffyddlon. Cewch fyw yn saff yn y wlad wedyn.
19 Bydd y tir yn rhoi digon i chi ei fwyta, a cewch fyw yn saff.
20 Peidiwch poeni na fydd digon i'w fwyta yn y seithfed flwyddyn, pan dych chi ddim i fod i hau na chasglu cnydau.
21 Bydda i'n gwneud yn siŵr fod cnwd y chweched flwyddyn yn ddigon i bara am dair blynedd.
22 Byddwch chi'n dal i fwyta o gnydau y chweched flwyddyn pan fyddwch chi'n hau eich had yn yr wythfed flwyddyn. Bydd digon gynnoch chi tan y nawfed flwyddyn pan fydd y cnwd newydd yn barod i'w gasglu.
23 “Dydy tir ddim i gael ei werthu am byth. Fi sydd piau'r tir. Mewnfudwyr neu denantiaid sy'n byw arno dros dro ydych chi.
24 Pan mae tir yn cael ei werthu, rhaid i'r gwerthwr fod â'r hawl i'w brynu yn ôl.