25 “Os ydy un o'ch pobl chi yn mynd mor dlawd nes bod rhaid iddo werthu peth o'i dir, mae gan ei berthynas agosaf hawl i ddod a prynu'r tir yn ôl.
26 Lle does dim perthynas agosaf yn gallu prynu'r tir, mae'r gwerthwr ei hun yn gallu ei brynu os ydy e'n llwyddo i ennill digon o arian i wneud hynny.
27 Dylai gyfri faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers iddo werthu'r tir, talu'r gwahaniaeth i'r person wnaeth ei brynu, a chymryd y tir yn ôl.
28 Os nad oes ganddo ddigon i brynu ei dir yn ôl, mae'r tir i aros yn nwylo'r prynwr hyd flwyddyn y rhyddhau mawr. Bydd yn ei gael yn ôl beth bynnag y flwyddyn honno.
29 “Os ydy rhywun yn gwerthu tŷ mewn tref sydd â wal o'i chwmpas, mae ganddo hawl i brynu'r tŷ yn ôl o fewn blwyddyn ar ôl iddo ei werthu.
30 Os nad ydy'r tŷ yn cael ei brynu'n ôl o fewn blwyddyn, mae'r prynwr a'i deulu yn cael cadw'r tŷ am byth. Fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr.
31 Ond mae tŷ mewn pentref agored (sydd heb wal o'i gwmpas) i gael ei drin yr un fath â darn o dir. Mae'r un hawliau i'w brynu'n ôl, a bydd yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol ar flwyddyn y rhyddhau mawr.