31 Ond mae tŷ mewn pentref agored (sydd heb wal o'i gwmpas) i gael ei drin yr un fath â darn o dir. Mae'r un hawliau i'w brynu'n ôl, a bydd yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol ar flwyddyn y rhyddhau mawr.
32 “Mae'r sefyllfa'n wahanol i'r Lefiaid. Mae ganddyn nhw hawl i brynu tai sy'n eu trefi nhw yn ôl unrhyw bryd.
33 Bydd unrhyw dŷ sydd wedi cael ei werthu yn un o'i trefi nhw, yn cael ei roi'n ôl iddyn nhw ar flwyddyn y rhyddhau, am mai'r tai yma ydy eu heiddo nhw.
34 A dydy tir pori o gwmpas trefi y Lefiaid ddim i gael ei werthu. Nhw sydd biau'r tir yna bob amser.
35 “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn methu cynnal ei hun, rhaid i chi ei helpu, yn union fel y byddech chi'n gofalu am rywun o'r tu allan neu am ymwelydd.
36 Peidiwch cymryd mantais ohono neu ddisgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad. Rhaid i chi ddangos parch at Dduw drwy adael i'r person ddal i fyw yn eich plith chi.
37 Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a peidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo.