34 A dydy tir pori o gwmpas trefi y Lefiaid ddim i gael ei werthu. Nhw sydd biau'r tir yna bob amser.
35 “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn methu cynnal ei hun, rhaid i chi ei helpu, yn union fel y byddech chi'n gofalu am rywun o'r tu allan neu am ymwelydd.
36 Peidiwch cymryd mantais ohono neu ddisgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad. Rhaid i chi ddangos parch at Dduw drwy adael i'r person ddal i fyw yn eich plith chi.
37 Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a peidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo.
38 Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, rhoi gwlad Canaan i chi, a bod yn Dduw i chi.
39 “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn gwerthu ei hun yn gaethwas i chi, peidiwch gwneud iddo weithio fel caethwas.
40 Dylech ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi gynnoch chi, neu fel mewnfudwr sy'n aros gyda chi. Mae i weithio i chi hyd flwyddyn y rhyddhau mawr.