47 “Dwedwch fod un o'r mewnfudwyr, rhywun sydd ddim yn un o bobl Israel, yn llwyddo ac yn dod yn gyfoethog iawn. Mae un o bobl Israel sy'n byw yn yr un ardal yn colli popeth, ac mor dlawd nes ei fod yn gwerthu ei hun yn gaethwas i'r person sydd ddim yn dod o Israel, neu i un o'i deulu.
48 Mae'n dal ganddo'r hawl i brynu ei ryddid. Gall un o'i frodyr brynu ei ryddid,
49 neu ewyrth neu gefnder, neu'n wir unrhyw un o'r teulu estynedig. Neu os ydy e'n llwyddo i wneud arian, gall brynu ei ryddid ei hun.
50 Dylai dalu am y blynyddoedd sydd rhwng y flwyddyn wnaeth e werthu ei hun a blwyddyn y rhyddhau mawr. Dylai'r pris fod yr un faint â beth fyddai gweithiwr yn cael ei gyflogi wedi ei ennill y blynyddoedd hynny.
51 Os oes nifer fawr o flynyddoedd i fynd bydd y pris yn uchel,
52 ond os mai dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ar ôl bydd y pris yn is.
53 Mae i gael ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi bob blwyddyn, a dydy e ddim i gael ei drin yn greulon.