5 Rhaid i chi beidio casglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. Mae'r tir i gael gorffwys yn llwyr am flwyddyn.
6 Ond mae'n iawn i unigolion fwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun – chi'ch hunain, y dynion a'r merched sy'n gaethweision, y bobl sy'n cael eu cyflogi gynnoch chi, ac unrhyw fewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.
7 Mae yna i'ch anifeiliaid ei fwyta hefyd, a'r anifeiliaid gwylltion sy'n byw ar y tir.
8 “Bob pedwar deg naw mlynedd (sef saith Saboth o flynyddoedd – saith wedi ei luosi gyda saith),
9 ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis, sef y diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn, rhaid canu'r corn hwrdd drwy'r wlad i gyd.
10 Rhaid cyhoeddi fod y flwyddyn wedyn, sef yr hanner canfed flwyddyn, wedi ei chysegru. Dyma flwyddyn y rhyddhau mawr i bawb drwy'r wlad i gyd – blwyddyn o ddathlu. Mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl, ac i fynd yn ôl at ei deulu estynedig.
11 Mae hon i fod yn flwyddyn o ddathlu mawr. Rhaid i chi beidio hau na chasglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin.