52 ond os mai dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ar ôl bydd y pris yn is.
53 Mae i gael ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi bob blwyddyn, a dydy e ddim i gael ei drin yn greulon.
54 Os nad oes rhywun yn prynu ei ryddid, mae'n dal i gael mynd yn rhydd ar flwyddyn y rhyddhau mawr – y dyn a'i blant gydag e.
55 Fy ngweision i ydy pobl Israel. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.