1 “Peidiwch gwneud eilun-dduwiau i chi'ch hunain. Peidiwch gwneud delw o rywbeth, neu godi colofn gysegredig, na gosod cerflun ar eich tir i blygu o'i flaen a'i addoli. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
2 Rhaid i chi gadw fy Sabothau a pharchu fy lle cysegredig i. Fi ydy'r ARGLWYDD.
3 “Os byddwch chi'n ufudd a ffyddlon, a gwneud beth dw i'n ddweud,
4 bydda i'n anfon glaw ar yr amser iawn, er mwyn i gnydau dyfu ar y tir, a ffrwythau ar y coed.
5 Byddwch yn cael cnydau gwych, a llwythi o rawnwin. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a cewch fyw yn saff yn y wlad.