10 Fydd gynnoch chi ddim digon o le i gadw eich cnydau i gyd. Bydd rhaid i chi daflu peth o gnwd y flwyddyn cynt i ffwrdd.
11 Bydda i yn dod i fyw yn eich canol chi. Fydda i ddim yn eich ffieiddio chi.
12 Bydda i'n byw yn eich plith chi. Fi fydd eich Duw chi, a chi fydd fy mhobl i.
13 Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, er mwyn i chi beidio bod yn gaethweision iddyn nhw. Dyma fi'n torri'r iau ar eich cefnau chi, i chi allu sefyll yn syth a cherdded yn rhydd.
14 “Ond os byddwch chi'n anufudd ac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud, byddwch chi'n cael eich cosbi.
15 Os byddwch chi'n gwrthod cadw fy rheolau i ac yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda chi,
16 dyma fydda i'n ei wneud: Bydda i'n dod â trychineb sydyn arnoch chi – afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, colli'ch golwg a cholli archwaeth am fwyd. Byddwch yn hau eich had i ddim byd achos bydd eich gelynion yn bwyta'r cnwd.