13 Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, er mwyn i chi beidio bod yn gaethweision iddyn nhw. Dyma fi'n torri'r iau ar eich cefnau chi, i chi allu sefyll yn syth a cherdded yn rhydd.
14 “Ond os byddwch chi'n anufudd ac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud, byddwch chi'n cael eich cosbi.
15 Os byddwch chi'n gwrthod cadw fy rheolau i ac yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda chi,
16 dyma fydda i'n ei wneud: Bydda i'n dod â trychineb sydyn arnoch chi – afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, colli'ch golwg a cholli archwaeth am fwyd. Byddwch yn hau eich had i ddim byd achos bydd eich gelynion yn bwyta'r cnwd.
17 Bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydd eich gelynion yn eich sathru chi dan draed. Bydd y rhai sy'n eich casáu chi yn eich rheoli chi. Byddwch chi'n dianc i ffwrdd er bod neb yn eich erlid chi.
18 Ac os byddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, bydda i'n eich cosbi chi yn llawer gwaeth.
19 Bydda i'n delio gyda'ch balchder ystyfnig chi. Bydd yr awyr yn galed fel haearn, a'r ddaear fel pres, am fod dim glaw.