22 Bydda i'n anfon anifeiliaid gwylltion i ymosod arnoch chi. Byddan nhw'n lladd eich plant, yn difa eich anifeiliaid. Bydd y boblogaeth yn lleihau a'r ffyrdd yn wag.
23 “Os fydd hynny i gyd ddim yn gwneud i chi droi yn ôl ata i, ac os byddwch chi'n dal i dynnu'n groes,
24 bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi waeth fyth.
25 Bydd rhyfel yn dechrau. Dyma'r dial wnes i sôn amdano pan wnes i'r ymrwymiad gyda chi. Byddwch chi'n dianc i'r trefi caerog, ond yn dioddef o afiechydon yno, a bydd eich gelynion yn eich dal chi.
26 Fydd gynnoch chi ddim bwyd. Bydd un ffwrn yn ddigon i ddeg o wragedd bobi ynddi. Fydd yna ddim ond briwsion i bawb. Fydd yna byth ddigon i'w fwyta.
27 “Wedyn os fyddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, ac yn dal i dynnu'n groes,
28 bydda i'n wirioneddol ddig. Bydda i'n troi yn eich erbyn chi, a bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi'n ofnadwy.