28 bydda i'n wirioneddol ddig. Bydda i'n troi yn eich erbyn chi, a bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi'n ofnadwy.
29 Byddwch chi'n dioddef newyn mor ofnadwy nes byddwch chi'n bwyta eich plant eich hunain – eich bechgyn a'ch merched.
30 Bydda i'n dinistrio eich allorau paganaidd chi, a'ch lleoedd cysegredig, ac yn taflu eich cyrff marw chi ar ‛gyrff‛ eich eilun-dduwiau chi. Bydda i'n eich ffieiddio chi.
31 Bydd eich trefi'n adfeilion a'ch temlau chi'n cael eu dinistrio. Fydd eich offrymau chi ddim yn fy mhlesio i o gwbl.
32 Bydd eich tir chi yn y fath gyflwr, bydd y gelynion fydd yn dod i fyw yno wedi dychryn.
33 Bydd y rhyfel yn dinistrio'r wlad a'r trefi, a byddwch chi'n cael eich gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd.
34 Tra byddwch chi'n gaethion yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys.