33 Bydd y rhyfel yn dinistrio'r wlad a'r trefi, a byddwch chi'n cael eich gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd.
34 Tra byddwch chi'n gaethion yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys.
35 Bydd e'n cael mwynhau gorffwys y Saboth oedd i fod i'w gael pan oeddech chi'n byw yno.
36 Bydd y rhai ohonoch chi fydd yn dal yn fyw wedi anobeithio'n llwyr yng ngwlad y gelyn. Bydd sŵn deilen yn ysgwyd yn ddigon i'w dychryn nhw. Byddan nhw'n dianc oddi wrth y cleddyf, ac yn syrthio er bod neb yn eu herlid nhw.
37 Byddwch chi'n baglu dros eich gilydd wrth ddianc, er bod neb ar eich holau chi. Fydd neb ohonoch chi'n ddigon cryf i sefyll yn erbyn y gelyn.
38 Bydd llawer ohonoch chi yn marw ac yn cael eich claddu mewn gwledydd tramor.
39 A bydd y rhai sy'n dal yn fyw yn gwywo yng ngwlad y gelyn o achos eu drygioni, ar holl bethau drwg wnaeth eu hynafiaid.