37 Byddwch chi'n baglu dros eich gilydd wrth ddianc, er bod neb ar eich holau chi. Fydd neb ohonoch chi'n ddigon cryf i sefyll yn erbyn y gelyn.
38 Bydd llawer ohonoch chi yn marw ac yn cael eich claddu mewn gwledydd tramor.
39 A bydd y rhai sy'n dal yn fyw yn gwywo yng ngwlad y gelyn o achos eu drygioni, ar holl bethau drwg wnaeth eu hynafiaid.
40 “Ond os gwnân nhw gyfaddef eu bod nhw a'u hynafiaid wedi bod ar fai; eu bod nhw wedi fy mradychu, bod yn anffyddlon a tynnu'n groes i mi.
41 (Dyna pam wnes i droi yn eu herbyn nhw a mynd â nhw i wlad eu gelynion). Os gwnân nhw stopio bod mor ystyfnig a derbyn eu bod nhw wedi bod ar fai,
42 bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda Jacob, a gydag Isaac, a gydag Abraham, a beth wnes i addo am y tir rois i iddyn nhw.
43 Byddan nhw wedi gadael y tir er mwyn iddo fwynhau gorffwys y Sabothau oedd i fod i'w cael. Bydd y tir yn gorwedd yn anial hebddyn nhw. Bydd rhaid iddyn nhw dderbyn eu bod nhw wedi bod ar fai yn gwrthod gwrando arna i na chadw fy rheolau.