39 A bydd y rhai sy'n dal yn fyw yn gwywo yng ngwlad y gelyn o achos eu drygioni, ar holl bethau drwg wnaeth eu hynafiaid.
40 “Ond os gwnân nhw gyfaddef eu bod nhw a'u hynafiaid wedi bod ar fai; eu bod nhw wedi fy mradychu, bod yn anffyddlon a tynnu'n groes i mi.
41 (Dyna pam wnes i droi yn eu herbyn nhw a mynd â nhw i wlad eu gelynion). Os gwnân nhw stopio bod mor ystyfnig a derbyn eu bod nhw wedi bod ar fai,
42 bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda Jacob, a gydag Isaac, a gydag Abraham, a beth wnes i addo am y tir rois i iddyn nhw.
43 Byddan nhw wedi gadael y tir er mwyn iddo fwynhau gorffwys y Sabothau oedd i fod i'w cael. Bydd y tir yn gorwedd yn anial hebddyn nhw. Bydd rhaid iddyn nhw dderbyn eu bod nhw wedi bod ar fai yn gwrthod gwrando arna i na chadw fy rheolau.
44 “Ac eto i gyd, pan fyddan nhw yng ngwlad eu gelynion, fydda i ddim yn troi cefn arnyn nhw a'u ffieiddio nhw a'u dinistrio nhw'n llwyr. Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda nhw, am mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw.
45 Bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda'i hynafiaid nhw pan ddes i â nhw allan o'r Aifft i fod yn Dduw iddyn nhw. Roedd pobl y gwledydd i gyd wedi gweld y peth. Fi ydy'r ARGLWYDD.”