1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dywed wrth bobl Israel:“Os ydy rhywun wedi addo cyflwyno person i mi, dyma'r prisiau sydd i'w talu (yn arian swyddogol y cysegr):
3-7 pum deg darn arian am ddyn rhwng ugain oed a chwe deg oed,a tri deg darn arian am wraig;dau ddeg darn arian am fachgen rhwng pump oed ac ugain oed,a deg darn arian am ferch;pump darn arian am fachgen sydd rhwng un mis a phump oed,a tri darn arian am ferch;un deg pump darn arian am ddyn sydd dros chwe deg oed,a deg darn arian am wraig.
8 “Os ydy'r un wnaeth yr adduned yn rhy dlawd i dalu'r pris llawn, rhaid iddo fynd â'r person sydd wedi cael ei gyflwyno i mi at yr offeiriad. Bydd yr offeiriad yn penderfynu faint mae'r sawl wnaeth yr adduned yn gallu ei fforddio.
9 “Os ydy rhywun wedi addo rhoi anifail i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, mae'r rhodd yna'n gysegredig.