12 Bydd yr offeiriad yn penderfynu beth ydy gwerth yr anifail.
13 Wedyn os ydy'r person wnaeth addo'r anifail eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris.
14 “Os ydy rhywun yn addo rhoi ei dŷ i'w gysegru i'r ARGLWYDD, mae'r offeiriad i benderfynu beth ydy gwerth y tŷ.
15 Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tŷ eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.
16 “Os ydy rhywun yn addo rhoi peth o dir y teulu i'w gysegru i'r ARGLWYDD, dylid penderfynu beth ydy ei werth yn ôl faint o gnwd fyddai'n tyfu arno. Pum deg darn arian am bob cant cilogram o haidd.
17 Os ydy'r tir yn cael ei addo yn ystod blwyddyn y rhyddhau mawr, rhaid talu'r gwerth llawn.
18 Unrhyw bryd ar ôl hynny bydd yr offeiriad yn penderfynu faint yn llai sydd i'w dalu ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf.