21 Pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir wedi ei neilltuo unwaith ac am byth i'r ARGLWYDD ei gadw. Bydd yn cael ei roi yng ngofal yr offeiriaid.
22 “Os ydy rhywun yn cysegru i'r ARGLWYDD ddarn o dir sydd wedi ei brynu (sef tir oedd ddim yn perthyn i'w deulu),
23 bydd yr offeiriad yn ei penderfynu faint mae'n werth. Bydd yn ei brisio ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn blwyddyn y rhyddhau nesaf. Rhaid talu am y tir y diwrnod hwnnw. Mae wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.
24 Ar flwyddyn y rhyddhau bydd y tir yn mynd yn ôl i'r person y cafodd y tir ei brynu ganddo'n wreiddiol (sef y sawl roedd y tir yn rhan o etifeddiaeth ei deulu).
25 Mae'r pris i'w dalu yn ôl mesur safonol y cysegr – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.
26 “Does gan neb hawl i gyflwyno anifail cyntaf-anedig i'r ARGLWYDD (buwch, dafad na gafr), achos yr ARGLWYDD piau'r anifail hwnnw yn barod.
27 Os ydy e ddim yn anifail cymwys i'w offrymu i'r ARGLWYDD, mae ganddo hawl i'w brynu'n ôl. Rhaid iddo dalu beth ydy gwerth yr anifail, ac ychwanegu 20%. Os ydy'r anifail ddim yn cael ei brynu yn ôl, rhaid ei werth am faint bynnag mae e'n werth.