16 Wedyn bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl.
17 Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen.
18 Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd o flaen yr ARGLWYDD yn y Tabernacl. Yna bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.
19 Bydd yr archoffeiriad wedyn yn cymryd brasder yr anifail i gyd a'i losgi ar yr allor.
20 Wedyn mae i wneud yr un peth gyda'r tarw yma ag a wnaeth gyda'r tarw gafodd ei offrymu dros ei bechod ei hun. Bydd yr archoffeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y bobl a Duw, a bydd Duw yn maddau iddyn nhw.
21 Bydd e'n mynd â gweddill y tarw tu allan i'r gwersyll. Bydd e'n ei losgi yr un fath â'r tarw arall. Mae'n offrwm i lanhau pobl Israel o bechod.
22 “Pan mae un o arweinwyr pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog.