3 “Os ydy'r archoffeiriad wedi pechu mae'n effeithio ar bawb. Mae'n gwneud pawb yn euog. Felly rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro i'w lanhau o'i bechod.
4 Rhaid iddo fynd a'r tarw o flaen yr ARGLWYDD at y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn gosod ei law ar ben yr anifail cyn ei ladd yno.
5 Yna bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl.
6 Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen o flaen y cysegr.
7 Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd yno o flaen yr ARGLWYDD. A bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau sydd y tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.
8 “Bydd yr archoffeiriad wedyn yn cymryd brasder yr anifail i gyd: y brasder sydd o gwmpas perfeddion yr anifail ac ar yr organau gwahanol,
9 y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau