1 “Pan mae rhywun yn gwrthod rhoi tystiolaeth mewn llys (ac yn gwybod neu wedi gweld beth ddigwyddodd), mae e'n euog, a bydd yn cael ei gosbi.
2 “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd rhywbeth sy'n aflan trwy ddamwain (fel corff anifail neu greadur arall sy'n aflan), mae e'n euog ac mae e'i hun yn aflan.
3 “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd trwy ddamwain unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth sydd wedi digwydd.
4 “Pan mae rhywun yn fyrbwyll ac yn addo ar lw ei fod yn mynd i wneud rhywbeth – da neu ddrwg – mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth mae e wedi ei wneud.
5 “Pan mae rhywun yn sylweddoli ei fod yn euog o wneud un o'r pethau yma, rhaid iddo gyffesu beth mae wedi ei wneud.
6 Wedyn rhaid iddo dalu am y drwg mae wedi ei wneud drwy ddod â dafad neu afr i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Bydd offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
7 “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio dafad neu afr, dylai ddod â dwy durtur neu ddwy golomen ifanc – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr.