15 “Pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol ac yn torri'r rheolau am y pethau sanctaidd sydd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD rhaid iddo ddod ag offrwm i gyfaddef bai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno, neu gall dalu'r pris llawn am hwrdd gydag arian swyddogol y cysegr.
16 Mae e hefyd i dalu'r ddyled yn ôl ac ychwanegu 20% a'i roi i'r offeiriad. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
17 “Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae'n euog, a bydd yn cael ei gosbi.
18 Rhaid i'r person hwnnw ddod â hwrdd heb ddim byd o'i le arno, neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd, yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei gamgymeriad.
19 Mae'n offrwm i gyfaddef bai. Roedd y person yn euog o flaen yr ARGLWYDD.”