10 Mae'r offeiriad i wisgo ei wisg o liain, a'i ddillad isaf lliain. Wedyn mae i gasglu'r lludw sydd ar ôl wedi i'r offrwm gael ei losgi, a'i gosod nhw'n domen wrth ymyl yr allor.
11 Wedyn rhaid iddo newid ei ddillad cyn mynd â'r lludw allan i le tu allan i'r gwersyll sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw.
12 Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi. Dydy e byth i fod i ddiffodd. Rhaid i offeiriad roi coed arno bob bore. Wedyn mae'n gosod yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr arno, ac yn llosgi brasder yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
13 Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi drwy'r amser. Dydy e byth i fod i ddiffodd.
14 “Dyma'r drefn gyda'r offrwm o rawn: Rhaid i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen yr allor.
15 Maen nhw i gymryd llond dwrn o flawd gwenith ac olew yr offrwm, a'r thus i gyd, a'i losgi fel ernes ar yr allor – yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD ac yn ei atgoffa o'i ymrwymiad.
16 Bydd yr offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, yn bwyta'r gweddill ohono. Rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sydd wedi ei gysegru, sef iard y Tabernacl.