16 Bydd yr offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, yn bwyta'r gweddill ohono. Rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sydd wedi ei gysegru, sef iard y Tabernacl.
17 Mae'r bara yma yn gysegredig iawn, fel yr offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r bara i gael ei bobi heb furum. Dw i'n ei roi i'r offeiriaid. Mae'n rhan o'r hyn sy'n cael ei gyflwyno i mi ar yr allor.
18 Dim ond y dynion sy'n ddisgynyddion i Aaron sy'n cael ei fwyta. Dyma eu siâr nhw bob amser. Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y bara fod wedi ei gysegru.”
19 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
20 “Dyma'r offrwm mae offeiriad i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD pan mae'n cael ei ordeinio: mae'r un fath a'r offrwm sy'n cael ei wneud fore a nos bob dydd, sef hanner cilogram o'r blawd gwenith gorau
21 wedi ei gymysgu gydag olew olewydd a'i grasu ar radell. Rhaid iddo fod wedi ei socian mewn olew, ei dorri yn ddarnau, a'i gyflwyno yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
22 Yr Archoffeiriad sydd i'w baratoi. Siâr yr ARGLWYDD ydy hwn bob amser, ac mae i gael ei losgi'n llwyr ar yr allor.