3 Neu os ydy e wedi dod o hyd i rywbeth ac yn honni nad ydy'r peth hwnnw ganddo. Pan mae person yn dweud celwydd am unrhyw un o'r pethau yma, mae e'n pechu.
4 Os ydy e wedi ei gael yn euog o wneud unrhyw un o'r pethau yma, rhaid iddo dalu'n ôl beth bynnag oedd e wedi ei ddwyn.
5 Rhaid iddo dalu'r swm yn ôl yn llawn, ac ychwanegu 20%. Mae i'w dalu i'r person gafodd ei dwyllo ganddo pan mae wedi cael ei ddedfrydu'n euog o'r drosedd.
6 Wedyn rhaid iddo fynd ag offrwm i'r ARGLWYDD i gyfaddef ei fai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno; neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd gyda arian swyddogol y cysegr.
7 Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am beth bynnag wnaeth e o'i le.”
8 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
9 “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm sydd i'w losgi: Mae'r offrwm i aros ar yr allor drwy'r nos tan y bore wedyn. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi.