1 “Dyma'r drefn gyda'r offrwm i gyfaddef bai (sy'n gysegredig iawn):
2 Rhaid i'r offrwm i gyfaddef bai gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi'n llwyr yn cael ei ladd. Mae'r gwaed i gael ei sblasio o gwmpas yr allor.
3 Rhaid cyflwyno brasder yr anifail i gyd: y brasder ar y gynffon lydan, y brasder o gwmpas perfeddion yr anifail,
4 y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
5 Bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor yn offrwm i'r ARGLWYDD. Mae'n offrwm i gyfaddef bai.
6 Dim ond y dynion, sef yr offeiriaid, sy'n cael ei fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru. Mae'n gysegredig iawn.
7 “Mae'r drefn yr un fath gyda'r offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod. Yr offeiriad sy'n gwneud pethau'n iawn gyda'r offrwm sydd i gael y cig.