14 Rhaid rhoi un dorth o bob math o offrwm o rawn yn gyfraniad i'r offeiriad sy'n sblasio gwaed yr offrwm o gwmpas yr allor.
15 Wedyn rhaid i gig yr aberth i ddweud diolch gael ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei offrymu. Does dim ohono i gael ei gadw tan y bore wedyn.
16 Ond os ydy'r aberth yn cael ei gyflwyno am fod rhywun yn gwneud addewid neu'n rhoi rhywbeth o'i wirfodd i'r ARGLWYDD, mae'n iawn i gadw peth ohono a'i fwyta y diwrnod wedyn.
17 Ond os oes unrhyw gig dros ben ar ôl hynny rhaid ei losgi y diwrnod wedyn.
18 Ddylai cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ddim cael ei fwyta fwy na diwrnod ar ôl ei gyflwyno. Os ydy hynny'n digwydd fydd y person sydd wedi cyflwyno'r offrwm ddim yn cael ei dderbyn. Bydd yr offrwm wedi ei sbwylio, a bydd unrhyw un sydd wedi ei fwyta yn cael ei gyfri'n euog.
19 “Os ydy'r cig wedi cyffwrdd unrhyw beth sy'n aflan dydy e ddim i gael ei fwyta. Rhaid ei losgi. Ond fel arall mae unrhyw un sydd yn lân yn seremonïol yn gallu ei fwyta.
20 Os ydy rhywun yn dal yn aflan ac yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.