21 Pan mae rhywun wedi cyffwrdd unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, neu gorff anifail neu rhyw greadur arall, ac wedyn yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
23 “Dywed wrth bobl Israel: Rhaid i chi beidio bwyta brasder unrhyw anifail – gwartheg, defaid na geifr.
24 Os oes anifail wedi marw neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt gallwch ddefnyddio'r brasder i wneud unrhyw beth, ond rhaid i chi beidio ei fwyta.
25 Os oes unrhyw un yn bwyta braster anifail sydd wedi cael ei offrymu i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
26 Peidiwch bwyta gwaed unrhyw aderyn neu anifail, ble bynnag dych chi'n byw.
27 Bydd unrhyw berson sy'n bwyta gwaed yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”