23 “Dywed wrth bobl Israel: Rhaid i chi beidio bwyta brasder unrhyw anifail – gwartheg, defaid na geifr.
24 Os oes anifail wedi marw neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt gallwch ddefnyddio'r brasder i wneud unrhyw beth, ond rhaid i chi beidio ei fwyta.
25 Os oes unrhyw un yn bwyta braster anifail sydd wedi cael ei offrymu i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
26 Peidiwch bwyta gwaed unrhyw aderyn neu anifail, ble bynnag dych chi'n byw.
27 Bydd unrhyw berson sy'n bwyta gwaed yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
28 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
29 “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD rhaid i'r person ei hun ddod â'r offrwm i'r ARGLWYDD.