25 Os oes unrhyw un yn bwyta braster anifail sydd wedi cael ei offrymu i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
26 Peidiwch bwyta gwaed unrhyw aderyn neu anifail, ble bynnag dych chi'n byw.
27 Bydd unrhyw berson sy'n bwyta gwaed yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
28 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
29 “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD rhaid i'r person ei hun ddod â'r offrwm i'r ARGLWYDD.
30 Mae i ddod â'r brasder a'r frest. Mae'r frest i gael ei chodi'n uchel a'i chyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
31 Bydd offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor, ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cael cadw'r frest.