31 Bydd offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor, ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cael cadw'r frest.
32-33 Rwyt i roi darn uchaf y goes ôl dde i'r offeiriad sy'n cyflwyno gwaed a brasder yr aberth. Mae e i gael cadw darn hwnnw.
34 Dw i'n cymryd y frest sydd i'w chwifio a darn uchaf y goes ôl dde gan bobl Israel. Dyna'r rhannau o'r offrwm hwn mae pobl Israel i'w rhoi bob amser i Aaron yr offeiriad a'i ddisgynyddion.”
35 Ers i Moses eu cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i'r ARGLWYDD, dyma'r rhannau o'r offrymau oedd i gael eu rhoi i Aaron a'i feibion.
36 Dyma beth ddwedodd yr ARGLWYDD oedd i gael ei roi iddyn nhw, pan gawson nhw eu heneinio gan Moses. Dyma beth mae pobl Israel i fod i'w roi iddyn nhw bob amser.
37 Felly dyma'r drefn sydd i'w chadw gyda'r offrwm i'w losgi, yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, yr offrwm i gyfaddef bai, yr offrwm ordeinio, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
38 Dyma wnaeth yr ARGLWYDD ei orchymyn i Moses ar fynydd Sinai pan oedd pobl Israel yn yr anialwch. Dyma'r offrymau oedd pobl Israel i'w cyflwyno iddo.