4 y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
5 Bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor yn offrwm i'r ARGLWYDD. Mae'n offrwm i gyfaddef bai.
6 Dim ond y dynion, sef yr offeiriaid, sy'n cael ei fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru. Mae'n gysegredig iawn.
7 “Mae'r drefn yr un fath gyda'r offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod. Yr offeiriad sy'n gwneud pethau'n iawn gyda'r offrwm sydd i gael y cig.
8 Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi ar ran unigolyn sy'n cael cadw croen yr anifail.
9 A'r un fath gyda'r offrwm o rawn. Yr offeiriad sy'n ei gyflwyno sy'n cael cadw'r offrwm sydd wedi ei baratoi mewn popty, padell neu ar radell.
10 Ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, i rannu pob offrwm o rawn sydd heb ei goginio, p'run ai wedi ei gymysgu gydag olew olewydd neu'n sych.