8 Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi ar ran unigolyn sy'n cael cadw croen yr anifail.
9 A'r un fath gyda'r offrwm o rawn. Yr offeiriad sy'n ei gyflwyno sy'n cael cadw'r offrwm sydd wedi ei baratoi mewn popty, padell neu ar radell.
10 Ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, i rannu pob offrwm o rawn sydd heb ei goginio, p'run ai wedi ei gymysgu gydag olew olewydd neu'n sych.
11 “Dyma'r drefn gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD:
12 Os ydy rhywun yn ei gyflwyno i ddweud diolch am rywbeth, rhaid cyflwyno offrwm gydag e sydd wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau. Bara heb furum ynddo wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, bisgedi tenau wedi eu brwsio gyda'r olew, a bara wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau ac wedi ei socian mewn olew.
13 Wrth gyflwyno'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid dod â bara wedi ei wneud gyda burum hefyd.
14 Rhaid rhoi un dorth o bob math o offrwm o rawn yn gyfraniad i'r offeiriad sy'n sblasio gwaed yr offrwm o gwmpas yr allor.