1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Galw Aaron a'i feibion. Cymer eu gwisgoedd, yr olew eneinio, y tarw ifanc i'w offrymu dros eu pechod, y ddau hwrdd, a basged o fara wedi ei bobi heb furum.
3 Wedyn galw bobl Israel i gyd at ei gilydd o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.”
4 A dyma Moses yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Pan oedd pawb yno
5 dyma Moses yn cyhoeddi, “Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn gwneud hyn.”
6 A dyma fe'n galw Aaron a'i feibion i ddod ymlaen. Dyma fe'n eu golchi nhw gyda dŵr.