22 Wedyn dyma Moses yn cymryd yr ail hwrdd, sef hwrdd yr ordeinio, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail.
23 Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn rhoi peth o'r gwaed ar glust dde Aaron, bawd ei law dde, a bawd ei droed dde.
24 Yna dyma fe'n gwneud yr un peth i feibion Aaron, cyn sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor.
25 Yna dyma fe'n cymryd y brasder – sef brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw – a darn uchaf y goes ôl dde.
26 Yna cymerodd Moses o'r fasged beth o'r bara wedi ei wneud gyda'r blawd gwenith gorau – un dorth o fara heb furum ynddo, un dorth wedi ei socian mewn olew olewydd, ac un o'r bisgedi.
27 Yna eu gosod nhw ar ben y brasder a darn uchaf y goes ôl dde, a rhoi'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion. A dyma nhw'n ei godi'n uchel a'i gyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
28 Wedyn dyma Moses yn cymryd y cwbl yn ôl ac yn ei losgi ar yr allor gyda'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr. Roedd hwn yn offrwm ordeinio, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.