1 Wythnos wedyn, pan oedd y seremoni ordeinio drosodd, dyma Moses yn galw Aaron a'i feibion ac arweinwyr Israel at ei gilydd.
2 A dyma fe'n dweud wrth Aaron, “Cymer fustach ifanc a hwrdd sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. Offryma'r bustach i'r ARGLWYDD fel offrwm i lanhau o bechod, a'r hwrdd fel offrwm i'w losgi.”
3 Yna dywed wrth bobl Israel, “Cymerwch fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, llo blwydd oed ac oen heb ddim byd o'i le arnyn nhw yn offrwm i'w losgi,
4 a bustach a hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Mae'r rhain i gael eu haberthu gydag offrwm o rawn wedi ei gymysgu gydag olew olewydd. Gwnewch hyn am fod yr ARGLWYDD yn mynd i ddod i'r golwg heddiw.”