15 Wedyn dyma Aaron yn cyflwyno offrymau'r bobl. Cymerodd y bwch gafr oedd yn offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, ei ladd, a mynd trwy'r un ddefod o buro ac o'r blaen.
16 Wedyn dyma fe'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi, gan ddilyn y ddefod arferol wrth wneud hynny.
17 Wedyn yr offrwm o rawn. Dyma fe'n cymryd llond ei law ohono a'i losgi ar yr allor gyda'r offrwm oedd i'w losgi yn y bore.
18 Ar ôl hynny dyma fe'n lladd y bustach a'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyma feibion Aaron yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma fe'n sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
19 Wedyn dyma fe'n cymryd brasder y bustach a'r hwrdd – brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
20 A dyma fe'n gosod y rhain ar ben y brestiau, ac yna llosgi'r brasder i gyd ar yr allor.
21 Wedyn dyma Aaron yn codi'r brestiau a rhan uchaf y goes ôl, a'u cyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Gwnaeth yn union fel roedd Moses wedi dweud.