21 Wedyn dyma Aaron yn codi'r brestiau a rhan uchaf y goes ôl, a'u cyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Gwnaeth yn union fel roedd Moses wedi dweud.
22 Wedyn dyma Aaron yn troi at y bobl ac yn codi ei ddwylo a'u bendithio nhw. Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrymau i gyd dyma fe'n dod i lawr o'r allor,
23 ac yna mynd gyda Moses i mewn i Babell Presenoldeb Duw. Pan ddaethon nhw allan dyma nhw'n bendithio'r bobl, a dyma'r bobl i gyd yn gweld ysblander yr ARGLWYDD.
24 Yna dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i losgi popeth oedd ar yr allor. Pan welodd pawb hyn dyma nhw'n gweiddi'n llawen ac yn plygu'n isel a'u hwynebau ar lawr.