12 Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Er eu bod nhw'n gryf ac yn niferus,byddan nhw'n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu.Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda,fydda i ddim yn dy gosbi di eto;
13 dw i'n mynd i dorri'r iau roddodd e ar dy wara dryllio'r rhaffau sy'n dy rwymo.”
14 Mae'r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe:“Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach.Dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunoda'r delwau metel o demlau dy dduwiau.Bydda i'n paratoi bedd i tifydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.”
15 Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoeddyn cyhoeddi heddwch!“Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda,a chadw dy addewidion!Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto;byddan nhw'n cael eu dinistrio'n llwyr.”