Nahum 3 BNET

1 Gwae ddinas y tywallt gwaed,sy'n llawn celwyddauac yn llawn trais,a'r lladd byth yn stopio!

2 Daeth sŵn clec y chwip a thwrw'r olwynion,meirch yn carlamu a cherbydau'n crynu!

3 Marchogion yn ymosod,cleddyfau'n fflachio,gwaywffyn yn disgleirio!Pobl wedi eu lladd ym mhobman;tomenni diddiwedd o gyrff –maen nhw'n baglu dros y meirwon!

4 A'r cwbl o achos drygioni'r butainddeniadol oedd yn feistres swynion,yn gwerthu ei hun i'r cenhedloedda swyno a thwyllo pobloedd.

5 “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Bydda i'n dy gywilyddio di –yn codi dy sgert dros dy wyneb;bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noetha theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!

6 Bydda i'n taflu budreddi ar dy ben,a'th wneud yn destun sbort ac yn sioe.

7 Fydd neb yn gallu edrych yn hir –Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud,‘Mae Ninefe'n adfeilion,a does neb yn cydymdeimlo!’Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”

8 Wyt ti'n saffach na Thebes,ar lan yr afon Nil?Roedd y dŵr fel môr yn glawdd o'i chwmpas,a'r afon fel rhagfur iddi.

9 Roedd yn rheoli'r Aifft a dwyrain Affrica;roedd ei grym yn ddi-ben-draw!– mewn cynghrair â Pwt a Libia.

10 Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,a'i phlant bach eu curo i farwolaethar gornel pob stryd.Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig,ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.

11 Byddi dithau hefyd yn feddwac wedi dy faeddu.Byddi dithau'n ceisio cuddiorhag y gelyn.

12 Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigysgyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed.O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthioi gegau'r rhai sydd am eu bwyta!

13 Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol;a giatiau dy wlad ar agor i'r gelyn;bydd tân yn llosgi'r barrau sy'n eu cloi.

14 Dos i dynnu dŵr i'w gadw ar gyfer y gwarchae!Cryfha dy gaerau!Cymer fwd a sathra'r clai,a gwneud brics yn y mowld!

15 Bydd tân yn dy losgi di yno,a'r cleddyf yn dy dorri i lawr –cei dy ddifa fel cnwd gan lindys.Lluosoga fel y lindys,ac fel y locust ifanc;

16 roedd gen ti fwy o fasnachwyrnag sydd o sêr yn yr awyr.Ond maen nhw fel lindys yn bwrw'i groen a hedfan i ffwrdd.

17 Roedd dy warchodwyr a'th weision sifilfel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer;ond pan mae'r haul yn codi maen nhw'n hedfan i ffwrdd,a does neb yn gwybod i ble.

18 Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria!Mae dy arweinwyr yn pendwmpian!Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau,a does neb i'w casglu.

19 Does dim gwella ar dy glwyf –mae dy anaf yn farwol.Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanatyn dathlu a curo dwylo.Oes rhywun wnaeth ddiancrhag dy greulondeb diddiwedd?

Penodau

1 2 3