2 Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy'n dial;Mae'r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig.Mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion,ac yn wyllt gyda'i wrthwynebwyr.
3 Mae'r ARGLWYDD yn amyneddgarac yn gryf –ond dydy e ddim yn gadael i'r euog osgoi'r gosb.Mae'n martsio yn y corwynt a'r storm,ac mae'r cymylau fel llwch dan ei draed.
4 Mae'n gweiddi ar y môr a'i sychu,ac yn sychu'r afonydd i gyd.Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo,ac mae blodau Libanus yn gwywo.
5 Mae'r mynyddoedd yn crynua'r bryniau'n toddi o'i flaen.Mae'r tir yn troi'n ddiffeithwch o'i flaen,y byd, a phopeth sy'n byw ynddo.
6 Pwy all oroesi o flaen ei ddicter?Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd?Mae'n tywallt ei lid fel tân,ac mae'r creigiau'n cael eu dryllio ganddo.
7 Mae'r ARGLWYDD yn dda,ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng;Mae'n gofalu am y rhai sy'n troi ato am help.
8 Ond mae'n gyrru ei elynion i'r tywyllwch;fel llifogydd sy'n ysgubo popeth ymaith,bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe'n llwyr.