1 Ninefe, mae'r ‛chwalwr‛ yn dod i ymosod!“Gosod filwyr i amddiffyn dy waliau!”“Gwylia'r ffordd! Gwna dy hun yn barod!Casgla dy rym milwrol!”
2 (Mae'r ARGLWYDD yn adfer anrhydedd ei bobl –gwinwydden Jacob, ac Israel hefyd.Roedd fandaliaid wedi dod a'i dinistrio,a difetha ei changhennau.)
3 Mae tarianau ei filwyr yn goch,arwyr sy'n gwisgo ysgarlad;Mae'r cerbydau dur fel fflamau o dânyn barod i ymosod,a'r gwaywffyn yn cael eu chwifio.
4 Mae'r cerbydau'n rhuthro'n wyllt drwy'r strydoedd,ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy'r sgwâr.Maen nhw'n fflachio fel ffaglau tân,ac yn gwibio fel mellt.
5 Mae'n galw ei swyddogion i ymosod;maen nhw'n baglu wrth wthio yn eu blaenau,yn rhuthro, hyrddio at y wal,a chodi sgrîn amddiffyn i gysgodi dani.