10 Distryw, difrod, a dinistr!Calonnau'n toddi, gliniau'n crynu,lwynau gwan, wynebau gwelw!
11 Beth sydd wedi digwydd i ffau'r llewod?Ble mae'r llewod ifanc i gael eu bwydo?Byddai'r llew a'r llewes yn cerdded yno,a'u cenawon yn saff, a neb yn eu tarfu.
12 Ble mae'r llew oedd yn rhwygo'i ysglyfaeth –ei ladd i'w lewesau a'i roi i'w rai bach?Roedd ei ogof yn llawn ysglyfaetha'i ffau'n llawn cnawd wedi ei ddryllio.
13 “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Bydda i'n llosgi dy gerbydau'n llwyr;bydd dy ‛lewod ifanc‛ yn marw'n y frwydr.Dw i'n mynd i gael gwared â'th ysglyfaeth o'r tir,a fydd neb eto'n clywed llais dy negeswyr.”