3 Mae tarianau ei filwyr yn goch,arwyr sy'n gwisgo ysgarlad;Mae'r cerbydau dur fel fflamau o dânyn barod i ymosod,a'r gwaywffyn yn cael eu chwifio.
4 Mae'r cerbydau'n rhuthro'n wyllt drwy'r strydoedd,ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy'r sgwâr.Maen nhw'n fflachio fel ffaglau tân,ac yn gwibio fel mellt.
5 Mae'n galw ei swyddogion i ymosod;maen nhw'n baglu wrth wthio yn eu blaenau,yn rhuthro, hyrddio at y wal,a chodi sgrîn amddiffyn i gysgodi dani.
6 Mae'r llifddorau'n agora'r palas ar fin syrthio.
7 Stripio'r frenhines a'i chymryd i'r gaethglud,a'i morynion yn cŵan fel colomennod,yn galaru gan guro eu bronnau.
8 Mae Ninefe fel argae wedi torri –mae pawb yn dianc ohoni!“Stopiwch! Stopiwch!” –ond does neb yn troi yn ôl.
9 “Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur!”Mae trysorau Ninefe'n ddiddiwedd;mae pob math o bethau gwerthfawr ynddi!