5 Mae'n galw ei swyddogion i ymosod;maen nhw'n baglu wrth wthio yn eu blaenau,yn rhuthro, hyrddio at y wal,a chodi sgrîn amddiffyn i gysgodi dani.
6 Mae'r llifddorau'n agora'r palas ar fin syrthio.
7 Stripio'r frenhines a'i chymryd i'r gaethglud,a'i morynion yn cŵan fel colomennod,yn galaru gan guro eu bronnau.
8 Mae Ninefe fel argae wedi torri –mae pawb yn dianc ohoni!“Stopiwch! Stopiwch!” –ond does neb yn troi yn ôl.
9 “Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur!”Mae trysorau Ninefe'n ddiddiwedd;mae pob math o bethau gwerthfawr ynddi!
10 Distryw, difrod, a dinistr!Calonnau'n toddi, gliniau'n crynu,lwynau gwan, wynebau gwelw!
11 Beth sydd wedi digwydd i ffau'r llewod?Ble mae'r llewod ifanc i gael eu bwydo?Byddai'r llew a'r llewes yn cerdded yno,a'u cenawon yn saff, a neb yn eu tarfu.