11 Byddi dithau hefyd yn feddwac wedi dy faeddu.Byddi dithau'n ceisio cuddiorhag y gelyn.
12 Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigysgyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed.O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthioi gegau'r rhai sydd am eu bwyta!
13 Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol;a giatiau dy wlad ar agor i'r gelyn;bydd tân yn llosgi'r barrau sy'n eu cloi.
14 Dos i dynnu dŵr i'w gadw ar gyfer y gwarchae!Cryfha dy gaerau!Cymer fwd a sathra'r clai,a gwneud brics yn y mowld!
15 Bydd tân yn dy losgi di yno,a'r cleddyf yn dy dorri i lawr –cei dy ddifa fel cnwd gan lindys.Lluosoga fel y lindys,ac fel y locust ifanc;
16 roedd gen ti fwy o fasnachwyrnag sydd o sêr yn yr awyr.Ond maen nhw fel lindys yn bwrw'i groen a hedfan i ffwrdd.
17 Roedd dy warchodwyr a'th weision sifilfel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer;ond pan mae'r haul yn codi maen nhw'n hedfan i ffwrdd,a does neb yn gwybod i ble.